Mae brodyr imi aeth ymlaen Trwy ddyfnach dŵr a phoethach tân; Ac etto gorchfygasant hwy: 'D yw'r dyfroedd y bûm trwyddynt ddim, Mewn lled a dyfnder, nerth a grym; Paham yr ofnaf innau mwy? Fy enaid, cred byth yn dy Dduw, Na fydd anfodlon tra yn fyw; Yr ydwyt beunydd yn nesau I wlad mae cariad fel y môr Yn uno'r saint â'r nefol gôr - Tragwyddol gydsain bur ddi-drai. 'D wy'n 'nabod dim o'r nefol le, Ond gwỳn fyd na f'a'wn ynddo 'fe; 'R wy'n caru pawb o fewn y wlad: Y dymmer nefol fwyn sydd fry Yn awr ddymunwn genyf fi: Fy nghartref ydyw tŷ fy Nhad.William Williams 1717-91
Tonau [888.888]: gwelir: A raid i groesau fyth yn llyn? A raid i gystudd garw'r groes? Mae dydd at ddydd yn dod i ben Mi deithiais ran o'r anial maith |
I have brothers who went forward Through deeper water and hotter fire; And yet they overcame: The waters I went through are nothing, In breadth and depth, strength and force; Why would I then fear anymore? My soul, believe forever in thy God, Nor be displeased while ever living; Thou art daily nearing The land where love is like the sea Joining the saints with the heavenly choir - An eternal, pure, unebbing chorus. I know nothing of the heavenly place, But that blessed I would be in it; I love everyone within the land: The pleasant heavenly season that is above Now I would wish I had: My home is my Father's house.tr. 2018 Richard B Gillion |
|